Text  Description automatically generated

Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i effaith yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru.

 

Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i dynnu sylw’r Pwyllgor at y materion allweddol sy’n wynebu’r sector cyhoeddi a’i weithlu.

Beth yw cyflwr iechyd presennol gweithlu’r sector, gan gynnwys effeithiau’r pandemig, Brexit, a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

Mae llyfrau yn y Deyrnas Unedig ymhlith y rhataf yn Ewrop, ac ni welwyd unrhyw gynnydd sylweddol yn yr 20 mlynedd diwethaf; mae hyn yn golygu bod gwerthiant uchel yn hanfodol i adennill buddsoddiadau, gan arwain at grynhoad o gyhoeddwyr mawr rhyngwladol sy’n rheoli’r farchnad y mae cyhoeddwyr bach o Gymru yn gweithredu ynddi. Mae’r Almaen a Ffrainc yn gweithredu Cytundebau Llyfrau Net[1] i ddiogelu hyfywedd eu marchnadoedd eu hunain sy’n naturiol gyfyngedig yn ôl iaith, yn wahanol i gyhoeddi Saesneg.

Mae’r sector cyhoeddi yng Nghymru i raddau helaeth yn cynnwys meicro-fentrau, a chymharol brin yw’r cyfleoedd am waith amser llawn. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn y sector yr hyn a elwir yn yrfaoedd portffolio ac maent yn ychwanegu at eu hincwm trwy ddulliau eraill, yn aml trwy addysgu neu weithio’n llawrydd. Mae’r realiti hwn hyd yn oed yn fwy llym yn achos awduron, sydd ddim yn aml yn gallu ennill bywoliaeth o ysgrifennu llyfrau. Mae ysgrifennu yn ei ystyr ehangaf yn sail i lawer o ymdrechion creadigol, a chyhoeddwyr sy’n aml yn datblygu talent neu IP newydd sydd wedyn yn mynd ymlaen i gael ei ddefnyddio gan sectorau creadigol eraill. Fodd bynnag, mae cyfraniad cyhoeddwyr yn tueddu i fod, ar y gorau, yn cael ei dan-werthfawrogi, neu hyd yn oed ei anwybyddu, ac mae’r cyfleoedd incwm y tu hwnt i werthiant llyfrau yn parhau i fod yn gyfyngedig. Y bygythiad mwyaf i’r sector cyhoeddi yw’r diffyg cyfle i dalent newydd, yn enwedig mewn swyddi golygu creadigol, darllen proflenni a chynhyrchu, gyda’r rhan fwyaf o’r gweithlu presennol yn debygol o ymddeol o fewn y 10 mlynedd nesaf. Mae’r sefyllfa’n arbennig o ansicr o ran y Gymraeg.

Pa mor sefydlog yw’r sector ariannol, a pha mor addas yw’r tâl a’r amodau gweithio?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen parhaus am gymorth grantiau ar gyfer cyhoeddi llyfrau gyda dimensiwn Cymreig, naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’r modd y mae’r system bresennol yn gweithredu yn seiliedig ar gyllid rhannol ar gyfer naill ai cynnwys neu swyddi, gyda’r gweddill yn dod o incwm masnachol y cyhoeddwyr. Mae’r incwm hwn yn dod dan bwysau cynyddol wrth i lyfrau a chylchgronau gael eu hystyried yn ‘wariant dewisol’, a chydag aelwydydd yn ei chael hi’n anodd talu biliau mae gostyngiad yng ngwariant y defnyddwyr yn debygol o effeithio’n negyddol ar gyhoeddwyr. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar eu gallu i gynnal eu busnesau a pharhau i gyflogi staff. Mae natur hyblyg a chreadigol y maes cyhoeddi yn aml yn ddeniadol, ond gyda thâl islaw’r incwm cyfartalog nid yw bob amser yn ddewis hyfyw fel gyrfa, yn enwedig i’r rhai o gefndiroedd economaidd is. Mae grantiau wedi bod yn ddigyfnewid ers bron i 20 mlynedd, gyda’r cyhoeddwyr yn amsugno’r gostyngiad yn y gefnogaeth o flwyddyn i flwyddyn, a chydag ymylon elw sy’n gostwng yn barhaus mae pwysau mawr ar gyflogau yn y sector.

Pa mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?

Fel yn achos y rhan fwyaf o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion Cymraeg, mae’r sector cyhoeddi yng Nghymru gryn bellter i ffwrdd o sicrhau cynrychiolaeth deg, ac ni fydd datblygiad organig yn sicrhau newid parhaol cadarnhaol o fewn y 5 mlynedd nesaf. Felly, cyflwynodd Cyngor Llyfrau Cymru gynnig llwyddiannus ar gyfer cronfa newydd bwrpasol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol. Gyda buddsoddiad cymharol fach, mae nifer o fentrau newydd yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd, gan gynnwys dau gyhoeddwr dan arweiniad pobl o liw, prosiect ysgrifennu ar gyfer ffoaduriaid, gweithdai gydag Iechyd Meddwl BAME, sianel YouTube yn hyrwyddo barddoniaeth, a dau beilot cylchgronau yn canolbwyntio ar anabledd a’r argyfwng hinsawdd. Er mwyn adeiladu ar y cyflawniadau rhagorol hyn, hoffem weld buddsoddiad penodol pellach dros y 5 mlynedd nesaf ar gyfer ymyriadau wedi’u targedu, tebyg i’r rhain.

Pa mor ddigonol yw’r cyfleoedd hyfforddi a sgiliau? A oes bylchau, a sut y dylid eu llenwi?

Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru gyllideb fach iawn ar gyfer darparu cyfleoedd hyfforddi’n flynyddol i gyhoeddwyr ac fe hoffai hyn weld hyn yn cael ei gynyddu fel blaenoriaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar interniaethau a phrentisiaethau â thâl i ddenu pobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfaoedd yn ein sector. Yn ogystal, bydd cyfleoedd gwaith deniadol yn helpu’r sector i gadw doniau disglair, yn enwedig o ran ysgrifennu, golygu a darlunio, a hefyd ym maes marchnata. Mae hyfforddiant ym maes sgiliau digidol sy’n newid yn gyflym, yn enwedig y rhai ym maes creu cynnwys digidol a marchnata, yn flaenoriaeth allweddol. Dylai ffocws newydd Llywodraeth Cymru o ran adnoddau addysgol i gefnogi’r Cwricwlwm newydd ddarparu cyfleoedd newydd i ychwanegu gwytnwch i’r sector, gydag ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn capasiti cynhenid fel y gellir osgoi rhoi’r agweddau mwyaf proffidiol ar gontract allanol i gyhoeddwyr yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru o fudd i gwmnïau lleol ac yn gofalu bod adnoddau’n cael eu gwneud yng Nghymru, i Gymru.

Beth fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen cymorth pellach?

Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol i barhau i fynd i’r afael â realiti marchnad cyhoeddwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r farchnad Gymraeg, er ei bod yn tyfu, yn rhy fach i fod yn gynaliadwy ar hyn o bryd – heb y gefnogaeth hon, ychydig iawn o’r llyfrau (187) a’r cylchgronau (16) rydym yn eu cefnogi’n flynyddol fyddai’n cael eu cyhoeddi. Mae’r farchnad Saesneg yn cystadlu ag un Prydain – y fwyaf yn y byd – gyda rhyw 250,000 o deitlau’n cael eu cyhoeddi’n flynyddol o’i gymharu â’r nifer o deitlau (156) a chylchgronau (11) rydym ni’n eu cefnogi.

Mae mentrau Rhoi Llyfr yn Anrheg Llywodraeth Cymru i ysgolion, banciau bwyd a dysgwyr ifanc wedi cael effaith gadarnhaol ar y sector cyfan, gyda chyhoeddwyr, awduron a llyfrwerthwyr yn elwa o’r buddsoddiad. Fodd bynnag, nid yw diffyg buddsoddiad tebyg ar gyfer llyfrau i oedolion yn ffafrio’r ddarpariaeth hanfodol bwysig o ran cynnwys Cymraeg yn arbennig. Credwn y byddai buddsoddiad ychwanegol mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar gyfer llyfrau a chylchgronau ac iddynt ddimensiwn Cymreig yn cael effaith pellgyrhaeddol, gyda manteision economaidd a chymdeithasol ychwanegol. Byddem yn awyddus i drafod cynigion i ehangu ar ein gwaith gyda llyfrgelloedd a sefydliadau trydydd sector eraill.

Croesawyd yn fawr y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru/Cymru Greadigol drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol, yn enwedig i weithwyr llawrydd, a chyflwynodd sawl cyhoeddwr geisiadau llwyddiannus hefyd. Wrth eu helpu drwy’r cyfnod heriol hwn, mae adferiad petrus y sector bellach yn cael ei effeithio gan y cynnydd digynsail mewn costau papur, tanwydd, a chostau cynhyrchu eraill, sy’n arbennig o heriol i fusnesau fel cyhoeddi, lle mae’r elw’n isel.

 



[1] Mae cytundeb llyfrau net ar waith pan fydd cyhoeddwyr yn gosod pris manwerthu sefydlog i sicrhau nad yw siopau megis manwerthwyr ar-lein neu archfarchnadoedd yn gostwng prisiau llyfrau i’w defnyddio fel abwyd colled, er enghraifft.